Penwythnos o gerddoriaeth a digwyddiadau celfyddydol AM DDIM:
Gigs awyr agored, sesiynau cerddorol, sesiynau barddoni, gweithdai, grwpiau dawns, peintio wyneb, digwyddiadau i blant, stondinau, ffair fach. Pentref arbennig ar gyfer pobl ifanc gan gynnwys trampolîn, gweithdai bocsio-bît, hip hop a samba

Dydd Sadwrn 25.7.09
Y Prif Lwyfan: 12-9pm
Sibrydion, Mr Phormula, Derwyddon Dr Gonzo, The Roseville Band, Racehorses, Mechanical Owl, Meilir, The Drip Dry Man, Y Promatics, Lupin Thieves
Eco tipi: 12-6pm
Nia Morgan, John Lawrence, JKLMNO, Stacey Cohen, Jonny Fluffypunk, Rhys Trimble, Sophie Mckeand

Dydd Sul 26.7.09
O 11:00 y bore ymlaen
Gorymdaith y carnifal yn cychwyn o faes parcio Somerfield, Band Tref yr Wyddgrug, dawnswyr morris lleol, stondinau, beicio cwad, ffair fach a mwy…
Y Rec, Maes Bodlonfa,
Yr Wyddgrug, Sir y Fflint
CH7 1DR
 
Does dim parcio ar gael ar y safle ei hun, ond gallwch barcio mewn un o’r meysydd parcio cyhoeddus Yr Wyddgrug, mwy o wybodaeth o’r ddolen yma.
Hefyd, ceir ychwaneg o lefydd ym maes parcio Neuadd y Sir, gyda bysiau yn mynd yn rheolaidd o’r safle. Am wybodaeth am fysiau, gewch wybodaeth yma.
 
Rhai o’r cwmniau tacsi lleol yw:
01352 755101 – Beeline
01352 752122 – Sureway
01352 757946 - Arrow Cars
01352 757062 – Sam’s Cabs
01352 753123 – Awel Cars

 Yn eisiau:
 Gwirfoddolwyr!
Os oes gennych chi bum munud sbar, beth am ddod draw i gynnig cymorth i wyl Y Ffin. Ebostiwch post@yffin.co.uk Dyletswyddau fel stiwardio ar y safle, casglu cyfraniadau, codi sbwriel a chynnig gwybodaeth a chyngor cyffredinol i'r cyhoedd.

 Cyswllt:
Dydd Sadwrn 25.7.09 Y Prif Lwyfan
Yn wreiddiol o’r Waunfawr, ond bellach wedi ymgartrefu yng Nghaerdydd, rhyddhaodd Sibrydion ei LP Saesneg cyntaf yn ddiweddar, ‘Campfire Classics.’ Fe’i disgrifir yn y Guardian fel ‘Wild West fanatics from Wales [perform] like an ultra-melodic Crazy Horse with their appealing blend of bubblegum, country and mariachi pop.’ mwy o wybodaeth
Mae Ed Holden, a adnabyddir hefyd fel Mr Phormula, yn wyneb ac enw cyfarwydd ar y sîn gerddorol yng ngogledd Cymru. Mae’r artist cynhyrchiol yn ymddangos yn aml ar raglenni fel Radio 1 Cymru ac S4C. Mae wedi gweithio gyda nifer fawr o fandiau llwyddiannus, gan gynnwys Y Diwygiad, Speculum a Genod Droog. mwy o wybodaeth
Grŵp ffync a ska Cymraeg o Lanrug ger Caernarfon. Nid yw gwyliau cerddorol yn ddieithr iddynt gan eu bod wedi perfformio mewn gigs yn yr Eisteddfod Genedlaethol a Gŵyl Macs, Caerfyrddin yn ddiweddar. Mae eu halbwm newydd ‘Stonk!’ yn cael ei ryddhau yn fuan wedi Gŵyl Y Ffin. mwy o wybodaeth
Fe’i henwyd yn ‘Kings of Leon Cymru’ gan y cylchgrawn wythnosol, NME. Mae eu sain yn cylchdroi ogwmpas synau nodedig eu canwr-gyfansoddwr, Andy, yn gymysg ag adran rhythm gref ac adran gorn bwerus. Mae’r chwech sy’n y band yn cael eu dylanwadu gan gerddoriaeth afaelgar o’r galon megis Neil Young, Dexy’s a The Band. mwy o wybodaeth
Efallai yr adnabyddir y band yn well oddi wrth eu henw gwreiddiol, Radio Luxembourg, mae eu sengl newydd ‘Cake’ yn cael ei chlywed yn gyson ar y BBC. Mae’r band yn arbrofol, yn greadigol ac yn heintus, ac maent yn brolio harmonïau aml-ran, offerynnau pres pwerus a synau synths swynol.
mwy o wybodaeth
Mae’r grŵp o’r Wyddgrug, Mechanical Owl, sy’n defnyddio gitars, acordions, ukeleles ac allweddellau casio yn canu caneuon epig pop bywiog sy’n sôn am fynyddoedd Cymru, atgofion plentyndod gan ramantu’r gorffennol.
mwy o wybodaeth
Eleni recordiodd a rhyddhaodd Meilir Tomos ei fini LP hir ddisgwyliedig ‘Bydd Wych.’ Wrth glywed cynnydd yn ei gerddoriaeth ar donfeydd yr awyr, sesiwn Radio 1, a rhestr gigs sy’n cynnwys perfformiad yn Ngŵyl Greenman, mae’r artist yma o Gymru yn cael cydnabyddiaeth wych yn 2009. mwy o wybodaeth
Os ydych wedi eich dadsensiteiddio gan yr orymdaith roc-indi arferol ddi-fflach, bydd The Drip Dry Man o Aberystwyth yn feddyginiaeth i chi. Gyda’i gwreiddiau yn nwfn mewn delta-blŵs, mae’r band yn weladwy wych ac yn creu sain roc go iawn. mwy o wybodaeth
Gydag rhyddhau ei EP cyntaf, ac ymddangosiadau ar raglen deledu Bandit, a gigs yn yr Eisteddfod, mae pedwar aelod Y Promatics o Ogledd Cymru yn gwneud enw mawr iddynt eu hunain ar y sîn gerddoriaeth Gymraeg gyda’i caneuon pwerus. mwy o wybodaeth
Ers ffurfio’r Lupin Thieves ym mis Gorffennaf 2007, mae’r criw wedi bod yn brysur yn perfformio ar draws y wlad gyda’i sain blŵs ‘garej’ sy’n siŵr o annog y dorf i’w thraed yn Y Ffin.
mwy o wybodaeth
Enillwyr cystadleuaeth Brwydr y Bandiau, yn y Tivoli yn ddiweddar. Fe’i disgrifir fel ‘band roc mwyaf dychmygol a byrlymus Wrecsam,’ mae’r criw yma yn sicr o lansio’r Ffin fel roced ofod!
more info
Dydd Sadwrn 25.7.09 Y Tipi
Bydd albwm Nia Morgan yn cael ei ryddhau yr haf hwn, ac mae’n sicr o fod yn llwyddiant. Mae llais tyner, addfwyn Nia yn gymysg â’r gitâr werin yn creu sain hudolus. Dyma gerddoriaeth werin Gymraeg ar ei orau.
mwy o wybodaeth
Un o sylfaenwyr y Gorkys Zygotic Mynci, mae John Lawrence bellach yn creu cerddoriaeth hyfryd gyda ‘The Infinity Chimps.’ Mae hefyd yn Gynhyrchydd uchel ei barch, ac yn gweithio o’i stiwidio yng Nghapel Cerrig.
mwy o wybodaeth
Mae Stacey Cohen o Ogledd Cymru yn gyfansoddwraig / gantores dalentog, a rhyddhaodd ei halbwm cyntaf 'Butterfly Kisses Squeeze my Mind' ym mis Mai eleni. Cerddoriaeth jazz yw’r dylanwad mwyaf arni a thryw gyfuno’r sain hwnnw a’i chyfansoddi gwych, mae’n creu’r cyfuniad perffaith – dewch i glywed Stacey’n chwarae’n fyw! mwy o wybodaeth
Mae ystod eclectig o ddylanwadau i’w clywed ar sain arbrofol roc a synwyrusrwydd pop y band, JKLMNO. Mae sain y grŵp yn cael ei chymharu â llawer o fandiau mawr megis, Sigur Ros, Spiritualized a Snow Patrol.
mwy o wybodaeth
Anarchydd o’r radd flaenaf, mae Jonny Fluffypunk bellach yn byw yng Nghanolfan Dechnoleg Amgen, Machynlleth. Mae’n un o’r fferfrynnau ym maes perfformio barddoniaeth a chabaret amgen o Ogledd Cymru draw i Lundain ac i Brighton. Mae Jonny yn creu a pherfformio deunydd barddol clyfar, hunangofiannol ac yn brygowthan yn fyrlymus. mwy o wybodaeth
Mae Rhys yn fardd dwyieithog, yn diwtor preifat ac yn berfformiwr sy’n gweithio yng ngogledd Cymru. Mae wedi cyhoeddi ei waith mewn amryw o gylchgronau megias Poetry Wales, Tears in the Fence, Seventh Quarry, Coffee House Poetry, Aesthetica a Skald. mwy o wybodaeth
Mae’r bardd Sophie McKeand o’r Wyddgrug, yn perfformio cymysgedd unigryw o farddoniaeth Nihilistaidd a Rhamantaidd ar draws Cymru a gogledd orllewin Lloegr. Hi yw pencampwraig ‘Poetry Slam’ Bangor 2009. Mae Sophie hefyd yn cynnig sesiynau barddonol yn ysgolion uwchradd yr ardal, er mwyn hyrwyddo’r traddodiad. mwy o wybodaeth